Thomas Wogan

gwleidydd o Gymru a theyrnladdwr

Roedd Thomas Wogan a elwir weithiau y teyrnleiddiad (ganwyd tua 1620 - wedi Medi 1666) yn Aelod Seneddol o Gymru ac yn un o deyrnladdwyr Siarl I.

Thomas Wogan
Ganwyd1620 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, teyrnladdwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd Lloegr rhwng 1642–48, Aelod o Senedd 1648-53 Edit this on Wikidata
TadJohn Wogan Edit this on Wikidata

Fo oedd trydydd mab Syr John Wogan o'i wraig Jane Colclough; roedd ei dad yn Aelod Seneddol dros Sir Benfro ac yn Uchel Siryf Sir Benfro.

Yn ystod y Rhyfel Cartref bu'n amlwg yn ymladd o blaid Senedd Lloegr, gan godi i safle capten, ac yna'n gyrnol. Ym mis Mawrth 1648 cafodd ei anfon gan Cromwell i Gymru i geisio ailsefydlu'r heddwch yn Sir Benfro a'r fro gyfagos. Cafodd gryn ganmoliaeth gan y cyrnol Thomas Horton am ei waith ym Mrwydr Sain Ffagan ym 1648. Ar ôl y frwydr, dyfarnwyd rhywfaint o'i gyflog iddo, a oedd yn ddyledus ers sbel, cafodd ei ddyrchafu'n gyrnol a'i benodi'n llywodraethwr Castell Aberystwyth.[1][2] Yn y cyfnod hwn, cyflwynodd gais gan drigolion y dref i agor 'ysgol rydd' yn Aberteifi.

Comisiynydd yr Uchel Lys

golygu

Roedd yn gefnogwr brwd o fyddin Lloegr ac fe'i penodwyd yn gomisiynydd yr Uchel Lys Cyfiawnder yn achos llys y Brenin Siarl. Mynychai bob cyfarfod, yn ddyddiol, ac yn Ionawr 1649, ef oedd y 52fed o'r 59 o lofnodwyr ar warant marwolaeth y Brenin.[1]

Yn ystod y cyfnod rhyng-drefnol (sef yr interregnum) derbyniodd weddill ei gyflog yn ôl-daliad ar ffurf tiroedd yn Iwerddon.[1]

Adfer y Frenhiniaeth

golygu

Ar ôl Adfer y Frenhiniaeth yn 1660, cafodd Wogan – ar 6 Mehefin 1660 – ei eithrio o bardwn cyffredinol a roddwyd i elynion y Brenin Siarl. Ildiodd ei hun ar 27 Mehefin, ac er nad oedd hynny o fewn y cyfnod penodedig, derbyniwyd ei ymroddiad.

Cafodd ei diiroedd yn Nghas-wis, ger Hwlffordd, a oedd wedi’u fforffedu, eu rhoi i Robert Werden yn Awst 1662 (er bod tystiolaeth bod yr ystadau hyn yn perthyn i frawd Wogan). Ildiodd i'r awdurdodau ar 27 Mehefin 1664, ond ar 27 Gorffennaf 1664, nodwyd ei fod wedi dianc o Dŵr Clifford (Castell Efrog), a chyhoeddwyd datganiad yn galw am ei arestio. Ffodd i’r Iseldiroedd, lle bu’n gwrthwynebu llywodraeth Lloegr, ynghyd ag Edmund Ludlow ac Algernon Sidney.

Mae'r cyfeiriad olaf ato yn dyddio o Fedi 1666 (Trans. Cymm., 1946 -7, 214), pan ddywedodd Aphra Behn ei fod "yn Utrecht, yn cynllwynio".

Trigai'r Woganiaid yng Nghas-wîs nes y gwerthwyd y stad i John Campbell (yr Arglwydd Cawdor) yn 1794.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1 2 3 Peacey 2004.
  2. ↑ Bywgraffiadur Cymru; y Llyfrgell Genedlaethol.
  • (Saesneg) Peacey, J. T. (2004). "Wogan, Thomas (b. c.1620, d. in or after 1669". Oxford Dictionary of National Biography (arg. online). Gwasg Prifysgol Rhydychen. doi:10.1093/ref:odnb/29825.CS1 maint: ref=harv (link) (mae angen tanysgrifiad neu aelodaeth o lyfrgell gyhoeddus i ddarllen yr erthygl)

Mae'r erthygl hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth o:

  • Noble's Lives of the Regicides, p. 337;
  • Official List of M.P.'s, i. 498;
  • Hist. MSS. Comm. 6th Rep. p. 154;
  • Nalson's Trial of Charles I, passim;
  • Commons' Journal, v. 86, 230, 519, 566, 608, vi. 156, 568, vii. 119, 129, viii. 61, 75, 139;
  • Cal. of State Papers, Dom. 1651;
  • Notes and Queries, 2nd ser. iii. 25;
  • Masson's Milton, iii. 720, v. 454, vi. 28, 44, 49, 54, 94, 45 n.

Darllen pellach

golygu

Plant, David (30 Gorffennaf 2005). "Biography of Thomas Wogan". BCW Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-01-28. Cyrchwyd 6 Medi 2015.