Wenfflam
Band roc trwm Cymraeg o'r 1980au
Band roc trwm Cymraeg o ardal Dyffryn Nantlle oedd Wenfflam. Roeddynt yn weithredol yn ail hanner yr 1980au.
| Enghraifft o: | grwpiau cerddorol |
|---|---|
| Gwlad | Cymru |
| Genre | cerddoriaeth metel trwm, Pop Cymraeg |
| Dynodwyr | |
Bu iddynt ryddhau dau recordiad; record sengl eu hunain, a chasét ar y cyd â'r grŵp Masnach Rydd.
Aelodau'r band
golyguCredir mai'r aelodau oedd:[1][2]
- Huw Owen - gitâr fâs
- Euron Williams - drymiau
- Glyn Parington - llais
- Dafydd Baines - gitâr
- Edward Huws - gitâr
Bu i un neu fwy o'r aelodau ddod yn aelod o brand 'Ap Ted a'r Apostolion' yn y 2000au oedd yn canu 'covers' o ganeuon pop Cymraeg fel Edward H. Dafis.[3] Bu i Dafydd Baines a Glyn Parington fod yn aelodau o grŵp y Strymdingars yn yr 1990au.[3]
Disgyddiaeth
golyguBu i'r grŵp ryddhau dau recordiad.[3]
Senglau
golygu- Deigryn Du - Recordiau Tryfan, TRF 281S a TRF 281, (1986), ail ochr yn cynnwys Mynadd Byw
Albwm
golygu- Wenfflam a Masnach Rydd - casét ar y cyd â'r band Masnach Rydd, Recordiau Sain, C647P, (1987) yn cynnwys pedair cân gan Wenfflam: Creithiau Ddoe, Cyn Ddaw Y Bore, Wil, Lisa
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Deigryn Du". Sianel Youtube 'Drycha'. 2021. Cyrchwyd 7 Hydref 2026.
- ↑ "Wenfflam". Gwefan Discogs. Cyrchwyd 7 Hydref 2026.
- 1 2 3 "Ap Ted a'r Apostolion". Gwefan BBC Radio Cymru. Cyrchwyd 7 Hydref 2026.
Dolenni allanol
golygu- Dilyn y Ffasiwn - Perfformiad gan Wenfflam yn Eisteddfod Genedlaethol 1986